Gerallt Lloyd Owen - Wicipedia Neidio i'r cynnwys Prif ddewislen Prif ddewislen symud i'r bar ochr cuddio Llywio Hafan Porth y Gymuned Y Caffi Materion cyfoes Newidiadau diweddar Erthygl ar hap Cymorth Chwilio Chwilio Gwedd Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Offer personol Rhoi Creu cyfrif Mewngofnodi Cynnwys symud i'r bar ochr cuddio Y dechrau 1 Bywyd cynnar 2 Ei waith llenyddol 3 Llyfryddiaeth Toglo is-adran Llyfryddiaeth 3.1 Hunangofiant 4 Oriel 5 Cyfeiriadau Toglo'r tabl cynnwys Gerallt Lloyd Owen 3 iaith Čeština English Galego Golygu dolenni Erthygl Sgwrs Cymraeg Darllen Golygu Golygu cod Gweld hanes Blwch offer Adnoddau symud i'r bar ochr cuddio Gweithredoedd Darllen Golygu Golygu cod Gweld hanes Cyffredinol Beth sy'n cysylltu yma Newidiadau perthnasol Dolen barhaol Gwybodaeth am y dudalen Cyfeirio at y dudalen hon Cael URL byr Switch to legacy parser Argraffu/allforio Llunio llyfr Lawrlwytho fel PDF Fersiwn argraffu Mewn prosiectau eraill Comin Wicimedia Eitem Wicidata Gwedd symud i'r bar ochr cuddio Oddi ar Wicipedia Gerallt Lloyd OwenGanwyd6 Tachwedd 1944 Llandderfel Bu farw15 Gorffennaf 2014 Ysbyty Gwynedd Dinasyddiaeth CymruGalwedigaethysgrifennwr, bardd PlantMirain Llwyd Owen PerthnasauGeraint Lloyd Owen (brawd) Wrth ei waith dyddiol yn Nantperis yn argraffu'r Hebog. Bardd a aned yn "Nhŷ Uchaf", fferm ym mhlwyf Llandderfel Sarnau, Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw) oedd Gerallt Lloyd Owen (6 Tachwedd 1944 – 15 Gorffennaf 2014).[1][2] Roedd yn un o brif feistri'r gynghanedd ac yn feuryn ymryson barddol Radio Cymru, Talwrn y Beirdd.[3] Bywyd cynnar[golygu | golygu cod] Gerallt oedd yr ail fab i Henry Lloyd Owen (1906-1982), amaethwr a Swyddog Pla Cyngor Sir Feirionnydd ac yna Gwynedd, a Jane Ellen (Jin, 1905-1989), athrawes a fu hefyd yn cadw siop a llythyrdy'r Sarnau wedi i'r teulu symud yno i fyw i'w hen gartref hi, "Broncaereini", yn 1945 pan benodwyd Henry i'w swydd gyda Chyngor Sir Feirionnydd. Llwyd o'r Bryn a gyflwynodd y gynghanedd iddo, ei athro barddol cyntaf, a gallai Gerallt gyfansoddi englyn cywir yn ddeuddeg oed. Yna aeth at Ifan Rowlands y Gistfaen, Llandderfel i wella'i grefft. Derbyniodd Gerallt ei addysg yn Ysgol Tŷ Tan Domen. Tra yn y chweched dosbarth dyrchafwyd y tad a symudodd y teulu i Gaernarfon, ond arhosodd Gerallt gyda'i fodryb yn y Sarnau i adolygu ar gyfer ei arholiadau 'lefel A', ond gwell ganddo astudio'r gynghanedd a darllen barddoniaeth ac ni chafodd y graddau angenrheidiol i fynd i'r brifysgol ac felly aeth i Goleg y Normal, Bangor lle derbyniodd Dystysgrif Athro yn 1966.[3] Enillodd Y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Treuliodd gyfnod o bum mlynedd fel athro: Ysgol Gynradd, Ysgol Glyndŵr (yr ysgol breifat Gymraeg a sefydlwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan y cenedlaetholwr brwd Trefor Morgan) ac Ysgol Gymraeg y Betws. Bu'n ysgrifennu comics i blant, gan gynnwys Llinos ac Yr Hebog[4]. Sefydlodd Wasg Gwynedd ym 1972. Yn 1972 hefyd y priododd ag Alwena Jones o Ddeiniolen gan fyw yn Llandwrog, a chawsant dri o blant: Mirain, Bedwyr a Nest. Bu'n rhan o'r ffilm Steddfod! 'Steddfod! (1989). Ei waith llenyddol[golygu | golygu cod] Er i'w gyfrol gyntaf, Ugain Oed a'i Ganiadau (Argraffty'r M.C., Caernarfon, 1966) gael ei gyhoeddi ym 1966, ni ddaeth yn ffigwr amlwg nes iddo gyhoeddi Cerddi'r Cywilydd ym 1972.[5] Nodweddir ei farddoniaeth gan ymdeimlad cryf am Gymreictod a phwyslais ar etifeddiaeth y Cymry a'r angen i'w hamddiffyn. Gwelir hyn yn arbennig o eglur mewn cerddi fel yr awdl Cilmeri , am dranc Llywelyn ap Gruffudd, a'r gerdd Fy Ngwlad (Cerddi'r Cywilydd) am yr arwisgiad yng Nghaernarfon yn 1969 sy'n agor efo'r llinellau cofiadwy, Wylit, wylit, Lywelyn, Wylit waed pe gwelit hyn. Ein calon gan estron ŵr, Ein coron gan goncwerwr, A gwerin o ffafrgarwyr Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr. Ond mae gan ei awen agwedd bersonol hefyd, yn ei gerddi am gyfeillion a pherthnasau, a'i gariad amlwg at ei fro. Mae'n medru bod yn ffraeth yn ogystal, er enghraifft yn ei gerdd Trafferth mewn siop (yn y gyfrol Cilmeri) am gael gwrthod talu â siec yn y Gymraeg yn siop Marks and Spencers, Llandudno, sy'n adleisio cerdd adnabyddus Dafydd ap Gwilym Trafferth mewn Tafarn. Cyhoeddodd hunangofiant ym 1999 dan y teitl Fy Nghawl Fy Hun. Golygodd gylchgrawn y Coleg Normal (Y Normalydd), sawl cyfrol yn y gyfres Talwrn y Beirdd, a bu'n gyd-olygydd y cylchgrawn Barddas am gyfnod. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor 1975 gyda'i awdl Yr Afon ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1982 gydai' awdl Cilmeri. Dymuniad y teulu oedd bod rhoddion er cof am Gerallt i'w gyfrannu i ymgyrch ‘Ie’ yr Alban.[6] Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod] Gwasg Gwynedd gyhoeddodd ei ddwy gyfrol bwysicaf o farddoniaeth: Cerddi'r Cywilydd yn 1972 a Cilmeri a Cherddi Eraill yn 1991, a hefyd ei hunangofiant Fy Nghawl Fy Hun yn 1999. Cafwyd 4 argraffiad o Cerddi'r Cywilydd ac enillodd Cilmeri a Cherddi Eraill wobr Llyfr y Flwyddyn, 1992. Ugain Oed a'i Ganiadau (1966) Cerddi'r Cywilydd (Gwasg Gwynedd, 1972) Cilmeri a cherddi eraill (Gwasg Gwynedd, 1991) Y Gân Olaf (Barddas, 2015) Hunangofiant[golygu | golygu cod] Fy Nghawl Fy Hun (Gwasg Gwynedd, 1999) Oriel[golygu | golygu cod] Cyfeiriadau[golygu | golygu cod] ↑ (Saesneg) Stephens, Meic (11 Awst 2014). Gerallt Lloyd Owen: Renowned Welsh poet. The Independent. Adalwyd ar 31 Awst 2014. ↑ (Saesneg) Gerallt Lloyd Owen obituary. The Daily Telegraph (7 Awst 2014). Adalwyd ar 31 Awst 2014. 1 2 "Gwefan yr Academi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-04. Cyrchwyd 2010-07-16. ↑ "Comics Cymraeg". BBC Cymru Fyw. 2016-05-28. Cyrchwyd 2021-04-15. ↑ Gweler y Bywgraffiadur Cymreig Arlein;] adalwyd 29 Medi 2016. ↑  Rhoddion er cof am Gerallt i ymgyrch ‘Ie’ yr Alban. Golwg360 (19 Gorffennaf 2014). Adalwyd ar 31 Awst 2014. Awdurdod WorldCat YBC: Y Bywgraffiadur Cymreig VIAF: 16744082 LCCN: nb2005010091 ISNI: 0000 0000 4288 7325 SUDOC: 19713095X ODNB: Bywgraffiadur Cenedlaethol Geiriadur Rhydychen (Mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus) Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Gerallt_Lloyd_Owen&oldid=15182627" Categorïau: Gerallt Lloyd Owen Beirdd Cymraeg Cyhoeddwyr o Gymru Genedigaethau 1944 Llenorion yr 20fed ganrif o Gymru Llenorion yr 21ain ganrif o Gymru Llenorion Cymraeg Marwolaethau 2014 Pobl o Feirionnydd Prifeirdd Categorïau cudd: Pages using infobox person with unknown parameters Articles with hCards Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen person Wicidata Dalennau gyda gwybodaeth am Reolaeth Awdurdod Wikipedia articles with VIAF identifiers Wikipedia articles with LCCN identifiers Wikipedia articles with ISNI identifiers Wikipedia articles with ODNB identifiers Golygwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 4 Gorffennaf 2026, am 11:57 . Cafodd y dudalen ei rendro drwy ddefnyddio Parsoid. Mae'r testun ar gael o dan Creative Commons Attribution-ShareAlike License; gall telerau ychwanegol fod yn berthnasol. Gweler y Telerau Gwasanaeth am fanylion. Polisi preifatrwydd Ynglŷn â Wicipedia Gwadiadau Cod Ymddygiad Datblygwyr Ystadegau Datganiad cwcis Golwg symudol Chwilio Chwilio Toglo'r tabl cynnwys Gerallt Lloyd Owen 3 iaith Ychwanegu pwnc